Ychydig o’n hanes

Daeth Eglwys Deuluol Cricieth i fodolaeth yn ffurfiol ym mis Mai 2000, pan ddaeth grwp o Gristnogion oedd yn byw yn y dref at ei gilydd yn wythnosol i addoli a chlywed dysgeidiaeth o’r Beibl.

Mae gwreiddiau’r eglwys wedi eu plannu’n ddwfn yng Nghlwb Gwyliau Scripture Union (y CSSM gynt) sy’n rhan anatod o’r haf yng Nghricieth ers 1903. Symudodd arweinwyr y tîm, Andrew ac Alison Bradley, i fyw i’r dref yn ystod y nawdegau a nhwthau ddechreuodd cyfres o wasanaethau teuluol yn 1999. Wrth i niferoedd dyfu fe ddaeth yn glir bod Duw yn sefydlu eglwys efengylaidd yn y dref.

O’r cychwyn cyntaf mae EDC wedi cyfarfod mewn adeilad a adnabyddir yn y dref fel y ‘Church Rooms’. Arferai’r neuadd berthyn i’r Eglwys yng Nghymru ond fe’i prynwyd gan Ymddiriedolaeth y Clwb Gwyliau yn y nawdegau, a’i ail-enwi yr ‘Holiday Club Hall’. Erbyn heddiw, yr eglwys sy’n berchen ar y neuadd ac mae wedi gwneud newidiadau sylweddol iddi sydd wedi ei gwneud yn fwy defnyddiol byth yng ngwaith yr efengyl o wythnos i wythnos. Yn ystod mis Awst defnyddir y neuadd gan y Clwb Gwyliau ar gyfer dau o’u grwpiau ac mae’r eglwys yn cadw cysylltiadau dwfn gyda chenhadaeth SU.

Mae’r eglwys yn edrych ymlaen at ddathlu ei phenblwydd yn 20 yn 2020, gan roi diolch i Dduw am ei ddaioni a’i ffydlondeb dros y blynyddoedd.

Cliciwch ar y lluniau i'w gweld yn fwy

2009

2022