Croeso

“Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddiwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser.” Philipiaid 4 v 6

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl bob dydd Sul yn Eglwys Deuluol Cricieth. Yn Saesneg mae ein gwasanaethau ond dangosir geiriau’r caneuon yn ddwy-ieithog, lle bo cyfieithiad ar gael, ac mae nifer ohonom yn Gymry Cymraeg. Yn ogystal â’r Sul, rydym yn cyfarfod mewn cartrefi yn yr wythnos, ac ar bedwerydd nos Fercher y mis mae Cyfarfod Weddi yn y neuadd.

Ein cenhadaeth

Nod yr Eglwys ydy ‘I weld anghredinwyr yn dod yn ddilynwyr brwd yr Arglwydd Iesu Grist’ ac rydym yn eich gwahodd i weddïo gyda ni am hyn ac i ymuno â ni os ydych yn ymweld â’r ardal. Croesawn eich ‘partneriaeth yn yr efengyl’.